Job 19

Job yn ymateb: Mae fy Amddiffynnwr yn fwy

1Dyma Job yn ateb:

2“Am faint mwy dych chi'n mynd i'm poenydio,
a'm dryllio gyda'ch areithio?
3Dych chi'n fy nwrdio i dro ar ôl tro,
ac yn fy hambygio yn gwbl haerllug.
4A hyd yn oed petai'n wir fy mod ar fai,
dim ond fi fyddai'n dioddef wedyn!
5Ond mae'n rhaid i chi ddangos eich bod chi'n well na fi,
a defnyddio'r hyn dw i'n ddiodde i brofi eich pwynt!
6Dylech weld fod Duw wedi gwneud cam â mi;
mae wedi f'amgylchynu ac yn gwarchae yn fy erbyn.
7Dw i'n gweiddi, ‘Trais!’ ond does neb yn ateb;
gweiddi am help, ond does dim tegwch.
8Mae Duw wedi blocio fy ffordd; alla i ddim dianc!
Mae wedi gwneud fy llwybr yn dywyll.
9Mae wedi dwyn fy urddas oddi arna i,
a thynnu'r goron oddi ar fy mhen.
10Mae wedi fy mwrw i lawr yn llwyr – mae hi ar ben arna i!
Mae fy ngobaith wedi mynd, fel coeden wedi ei diwreiddio.
11Mae e wedi gwylltio'n lân gyda mi,
ac yn fy nhrin fel un o'i elynion.
12Mae ei fyddin yn ymosod gyda'i gilydd;
wedi codi rampiau i warchae yn fy erbyn
a gwersylla o gwmpas fy mhabell.
13Mae wedi gwneud i'm perthnasau gadw draw;
dydy'r bobl sy'n fy nabod i ddim eisiau gwybod.
14Mae fy nghymdogion wedi troi cefn arna i,
a'm ffrindiau gorau wedi anghofio amdana i.
15Mae fy morynion yn fy nhrin i fel dieithryn –
fel petawn i'n rhywun o wlad arall.
16Dw i'n galw fy ngwas, ond dydy e ddim yn ateb,
er fy mod yn crefu arno i ddod.
17Mae fy anadl yn atgas i'm gwraig;
a dw i'n drewi'n ffiaidd i'm teulu.
18Mae hyd yn oed plant bach yn gwneud sbort arna i;
pan dw i'n codi, maen nhw'n gwawdio.
19Mae fy ffrindiau agosaf yn fy ffieiddio;
a'r rhai dw i'n eu caru wedi troi yn fy erbyn.
20Dw i'n ddim byd ond croen ac esgyrn
a dw i'n dal yma o drwch blewyn!
21Byddwch yn garedig ata i! Chi ydy fy ffrindiau!
Mae Duw wedi fy nharo i!
22Pam mae'n rhaid i chi hefyd fy erlid, fel Duw?
Oes yna ddim diwedd ar eich ymosodiadau?
23O na fyddai fy ngeiriau yn cael eu hysgrifennu i lawr,
a'u cofnodi'n glir mewn sgrôl;
24eu naddu ar graig gyda chŷn haearn,
a'u llenwi â phlwm i gael eu gweld am byth!
25Ond dw i'n gwybod fod fy Amddiffynnwr yn fyw,
ac yn y diwedd y bydd yn sefyll ar y ddaear i dystio ar fy rhan,
26hyd yn oed ar ôl i'm croen i gael ei ddifa.
Ond cael gweld Duw tra dw i'n dal yn fyw
19:26 dal yn fyw Hebraeg, “yn fy nghorff”.
– dyna dw i eisiau,
27ei weld drosof fy hun;
i'm llygaid i ei weld, nid rhywun arall:
Dw i'n hiraethu am hynny fwy na dim.
28Wrth ofyn, ‘Sut allwn ni ei erlid e?’
ac wrth ddweud, ‘Arno fe'i hun mae'r bai!’
29dylech chi ofni cael eich cosbi eich hunain –
mae eich dicter chi'n haeddu ei gosbi gan y cleddyf!
Cofiwch fod yna farn i ddod!”
Copyright information for CYM